Richard Harris
Mae’r diwydiant Systemau Trafnidiaeth Ddeallus (ITS) wedi datblygu’n anhygoel ers dyddiau arloesol cynnar y 1970au a’r 1980au. Mae’r rhain wedi cael eu hysgogi gan y chwyldro ym maes cyfathrebu, cynhwysedd data a galluogrwydd prosesu cyfrifiadurol.
Mae’r ffordd rydyn ni’n disgrifio’r hyn a wnawn wedi datblygu hefyd o systemau cyfathrebu ffyrdd/moduron Japan (1984) a’r wybodeg trafnidiaeth ffordd a’r amgylchedd trafnidiaeth ffordd integredig yn Ewrop (1988) a’r system cerbyd deallus – priffyrdd (1991) yn yr Unol Daleithiau drwy delemateg trafnidiaeth (1992) i systemau trafnidiaeth ddeallus (1994) a’r systemau a’r gwasanaethau cysylltiedig, cydweithredol a symudedd presennol.
Er nad ydw i’n awgrymu ein bod yn ail-frandio ein diwydiant ac yn cael gwared â’r term ITS, tybed a ydy hi’n hen bryd adnewyddu ychydig.
Efallai y dylai ITS olygu Gwasanaethau Trafnidiaeth Integredig?
Er mwyn cyflawni elfen drafnidiaeth dinasoedd a rhanbarthau clyfar sy’n hawdd byw ynddyn nhw, mae angen i ni symud ymlaen o systemau a gwasanaethau unigol i gyfres integredig, gydgysylltiedig a mwy effeithiol o wasanaethau sy’n gweithio’n well gyda’i gilydd. Integreiddio yw’r allwedd i gasglu a phrosesu data a gwybodaeth a rheoli seilwaith a rhwydweithiau trafnidiaeth yn effeithiol. Dydy hyn o reidrwydd ddim yn golygu bod angen un system fawr. Cyn belled â bod y data sydd ei angen yn hygyrch, gall systemau rhwydwaith ddarparu lefel y gallu i ryngweithredu sydd ei angen.
Yn 2023, mae gweithredu’n fwy effeithlon yn fater brys, a hynny’n fwy gwir nag erioed, wrth i ni wynebu heriau pwysau economaidd cynyddol, y galw am wytnwch symudedd a heriau amgylcheddol y newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ni gael mwy am lai. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i’n seilwaith ond hefyd i’n gwaith llywodraethu sefydliadol a threfniadol hefyd.
Yn amlwg, rydyn ni wedi datblygu a gweithredu nifer cynyddol o atebion gwych sy’n gwella diogelwch, effeithlonrwydd, cysur, cyfleustra, hygyrchedd, sy’n cyfrannu at ffyniant economaidd, sy’n lleihau effaith amgylcheddol ac yn gwella ansawdd bywyd pobl, ond mae cyfleu’r neges i fuddsoddi mewn ITS yn dal i fod braidd yn heriol. Mae’n rhaid i ITS gystadlu am gyllid ynghyd â mentrau trafnidiaeth eraill. Yn gyffredinol, mae rhoi ITS ar waith a’i weithredu yn golygu costau refeniw yn hytrach na chost cyfalaf ac yn aml mae gofyn addasu a datblygu’n barhaus er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n parhau i fodloni disgwyliadau. Yn wahanol i seilwaith newydd (fel HS2), anaml iawn y mae cyfle am ffotograffau torri rhuban neu blac coffa i ddathlu gwaith adeiladu gydag atebion ITS, a allai eu gwneud yn llai deniadol i swyddogion etholedig.
Fel diwydiant, rydyn ni wedi dyfeisio ein hiaith ein hunain sy’n rhwystr o ran deall (AFC, RUC, ERP, ANPR, PNC, UTC, CVHS, LEZ, ULEZ, PT, DSRC, TMC, ITSO, ADAS, Mas, VRA, EV, TTI, C-ITS ac ati.). Rydyn ni’n parhau i ychwanegu syniadau, atebion a mentrau newydd hefyd; Mae symudedd-fel-gwasanaeth yn enghraifft dda o hyn.
Tybed all Gwasanaethau Trafnidiaeth Integredig ddarparu’r arwyddair a fydd yn helpu i symleiddio ein diwydiant a disgrifio’n well yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni wrth i ni ymdrechu i ddatgloi manteision ITS ar draws y gymuned gyfan?
Nid dim ond y term cyffredinol ITS sydd wedi achosi dryswch, camddealltwriaeth a chodi disgwyliadau, mae’r ffordd rydyn ni wedi labelu gwasanaethau, mentrau a thechnolegau unigol hefyd wedi gwneud yr un fath.
Rheoli Traffig yn Weithredol i Draffordd a Reolir i Draffordd Glyfar
Yn 2003, sefydlodd yr Asiantaeth Priffyrdd yn Lloegr dreial Rheoli Traffig yn Weithredol ar ddarn 17km o draffordd yr M42 ger Birmingham.
Roedd y cynllun yn cyfuno technolegau newydd â thechnegau adnabyddus ar gyfer rheoli traffig traffyrdd. Roedd y rhain yn cynnwys terfynau cyflymder newidiol gorfodol (fel y rhai a ddefnyddir ar yr M25), arwyddion gwybodaeth gwell i yrwyr a system newydd ar gyfer rheoli tagfeydd a digwyddiadau.
Roedd y system yn caniatáu i weithredwyr agor a chau unrhyw lôn ar y draffordd i draffig er mwyn helpu i reoli tagfeydd ar adegau prysur neu pan fo cynnydd mewn traffig oherwydd digwyddiadau. Datblygodd hyn i gynnwys defnyddio’r llain galed fel lôn redeg fyw rhwng cyffyrdd o dan amodau rheoledig.
Diagram Text | |
CCTV camera | Camera Teledu Cylch Cyfyng |
Lighting Columns | Colofnau Golau |
MS4 driver Information panel | Panel Gwybodaeth MS4 ar gyfer gyrwyr |
Fixed direction signing | Arwyddion cyfarwyddiadau sefydlog |
Lane specific signals | Signalau lonau penodedig |
Lightweight Gantries | Gantrïau Ysgafn |
MDAS | Canfod Digwyddiadau a Signalau Awtomatig Traffyrdd (MIDAS) |
Hard Shoulder running | Rhedeg Llain Galed |
Emergency Refuge Area | Ardal Loches mewn Argyfwng |
Emergency Roadside Telephone | Ffôn Argyfwng Ymyl Ffordd |
CEC cabinet | Cabinet Cyfarpar Cyfunol |
Ffigur 1 M42 y dechnoleg a’r beirianneg a ddefnyddiwyd yn ystod y treial.
Daeth yr M42 yn adnabyddus fel Traffordd a Reolir yn 2005. Roedd y seilwaith yn cynnwys goleuadau newydd, gantrïau, arwyddion electronig a statig, ffonau argyfwng ymyl ffordd, ardaloedd lloches, teledu cylch cyfyng a therfynau cyflymder newidiol gorfodol. O’r gyrwyr a holwyd am ddiogelwch defnyddio’r llain galed roedd 84% yn teimlo ei bod yn ddiogel.
Ar ôl bodloni gofynion diogelwch, amgylcheddol a dibynadwyedd, cymeradwywyd cyflwyno cynlluniau pellach. Fodd bynnag, daeth amrywiadau i’r amlwg gyda chynlluniau Rhedeg Pob Lôn a Llain Galed Ddynamig yn ymuno â Thraffyrdd a Reolir. Gyda’i gilydd, cafodd y rhain eu galw’n Draffyrdd Clyfar er nad oedd y dechnoleg hanfodol a manylebau llwyddiannus treial yr M42 wedi’u cynnwys o reidrwydd. Y gwahaniaeth rhwng Rheoli Traffig yn Weithredol, Traffyrdd a Reolir a Thraffyrdd Clyfar yw’r disgwyliad sydd gan ddefnyddwyr a’r pryderon dilynol sydd ganddyn nhw ynghylch diogelwch. Dydy galw rhywbeth yn Glyfar ddim yn golygu nad yw’n hurt.
Ai cloc ydy o neu ydy o’n fy ngwylio i?
Yn ystod datblygiad systemau llywio mewn ceir yn y 1970au a’r 1980au, roeddem yn dibynnu ar baru mapiau gan ddefnyddio odomedrau gwahaniaethol a chwmpasau’r ceir eu hunain, gan fod System Leoli Fyd-eang (GPS) wedi’i chyfyngu i ddefnydd milwrol.
Fodd bynnag, ym 1983: cafodd Awyren o Korea ei saethu i lawr ar ôl hedfan i mewn i ofod awyr Sofietaidd. Lladdwyd pob un o’r 269 o deithwyr, gan gynnwys Larry McDonald, Cynrychiolydd y Democratiaid Georgia. Bythefnos ar ôl yr ymosodiad, cafwyd cyfarwyddyd gan yr Arlywydd Ronald Reagan i sicrhau bod technoleg GPS milwrol (a oedd yn hysbys fel NAVSTAR ond a elwid gan lawer yn dechnoleg Star Wars) ar gael i’w defnyddio’n sifil fel na fyddai trychinebau tebyg yn cael eu hailadrodd. I ddechrau, roedd yr wybodaeth am y lleoliad yn llai cywir yn fwriadol (argaeledd detholus) nag ar gyfer defnydd milwrol a datblygwyd atgyweiriadau GPS gwahaniaethol er mwyn helpu i wella gwasanaethau lleoliadau sifil. Yn 2000, dyfarnodd yr Arlywydd Bill Clinton y dylid rhoi’r gorau i argaeledd detholus er mwyn gwneud GPS yn fwy ymatebol i ddefnyddwyr sifil a masnachol ledled y byd.
Roedd datblygiadau dilynol systemau llywio masnachol mewn ceir yn dibynnu’n gynyddol ar GPS ar gyfer lleoli. Ond roedd yn anodd cael gwared ar y term Star Wars. Roedd llawer yn credu bod y lloerennau GPS yn eu monitro (gwylio). Pam arall fyddent yn cael eu galw yn Satnavs? Mewn gwirionedd, mae GPS yn gweithio gan ddefnyddio codau amser a anfonir o loerennau unigol i gael gwybodaeth am leoliad daearyddol ar y ddaear.
Ar ôl blynyddoedd lawer o geisio egluro’r dechnoleg mewn ffordd syml, daeth cymorth o ffynhonnell annisgwyl.
Roedd Richard a Judy, cyflwynwyr teledu’r DU, ar eu hanterth am flynyddoedd lawer ac yn wynebau cyfarwydd mewn cartrefi ym mhob cwr o’r wlad. Un noson fe wnaeth fy nharo i’n sydyn, roeddent yn union yr un fath â GPS! Ar ddiwedd eu sioe, roeddent yn syllu’n syth i mewn i’r camera ac yn dweud “Diolch am wylio, fe welwn ni chi’r un amser, yr un lle yfory”. A finnau’n ateb, “Na fyddwch, oherwydd allwch chi ddim fy ngweld i”. Rhoddodd hyn y gymhariaeth berffaith i mi egluro GPS a’r eironi cysylltiedig gan nad oedd modd iddyn nhw fy ngweld i, na ’nghlywed i chwaith.
Mae Richard a Judy yn chwalu myth GPS, felly gadewch i ni wneud ITS yn fwy hygyrch a dealladwy.
Bywgraffiad o Richard Harris, Aelod o Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd Prifysgol Aberystwyth
Mae Richard yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwr blaenllaw ac arweinydd syniadau yn y maes Systemau Trafnidiaeth Deallus (ITS). Mae ganddo 40 mlynedd a mwy o brofiad, mae wedi cael swyddi uwch mewn cwmnïau blaenllaw (gan gynnwys ICC, AECOM, WSP, Logica a Xerox) a chymdeithasau diwydiant (gan gynnwys ITS UK, ERTICO, PIARC, IRF, IBEC, MaaS Alliance) ac wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu a lleoli ITS.
Roedd ei waith ITS cynnar yn cynnwys adeiladu a gweithredu cronfeydd data’r AA o lwybrau yn y DU a Thramor a datblygu systemau llywio mewn ceir gyda Autoguide, Ali-Scout ac Euroscout (1980au) gan ddefnyddio goleuadau isgoch a SOCRATES (1990au) gan ddefnyddio radio cellog. Mae ganddo brofiad helaeth mewn prosiectau Ymchwil a Datblygu allweddol y Comisiwn Ewropeaidd gan gynnwys Socrates Kernel, LLAMD, OBU, ITSWAP, TEAM, TABASCO, DATEX II, GREAT, PI3LOTS, CIVITAS, SETPOS, CENTRICO a STREETWISE ac mae wedi helpu i sicrhau cefnogaeth gwerth 300 miliwn Ewro ar gyfer y rhaglen EASYWAY.
Enillodd Wobr Rees Hill ITS y DU 2010 am gyfraniad eithriadol i ITS gan weithiwr proffesiynol yn y DU.
Cafodd Richard ei sefydlu yn Neuadd Anfarwolion Cyngres y Byd ITS yn 2015 fel derbynnydd y wobr cyflawniad oes. Dyma’r dysteb iddo, ‘Eiriolwr effeithiol a charismataidd ac arweinydd syniadau yn y maes ITS ers 25 mlynedd a mwy sy’n mynd ati’n gwbl anhunanol i hyrwyddo ITS yn gyffredinol, heb ystyriaethau masnachol na thuedd. Mae’n adnabyddus ac yn ennyn parch gweithwyr proffesiynol ar hyd a lled y byd. Gŵr poblogaidd y mae pawb yn ymddiried ynddo, ac mae ei ymrwymiad mewn sefydliadau byd-eang yn parhau i ysbrydoli cymuned ryngwladol y maes ITS ac o fudd iddi.’
Mae Richard yn awdur 500 a mwy o bapurau, blogiau, cyflwyniadau, cyhoeddiadau, erthyglau, fideos a CD ROMau a gyhoeddwyd ac a gyflwynwyd mewn cynadleddau ledled y Byd.
Richard Harris (chwith) a’r Athro Charles Musselwhite (arweinydd Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd Prifysgol Aberystwyth)