Cyd-gyfarwyddwyr:
Peter Merriman (Athro Daearyddiaeth Ddynol, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) yw un o ddamcaniaethwyr symudedd a haneswyr symudedd mwyaf blaenllaw y byd ac mae wedi ymgymryd ag ymchwil ryngddisgyblaethol ar draws y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau, gan ganolbwyntio’n bennaf ar agweddau daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg, athroniaeth gyfoes a hanes symudedd. Mae’n awdur tri llyfr, dau ohonynt yn canolbwyntio ar symudedd: Driving Spaces: A Cultural-Historical Geography of England’s M1 Motorway (Cyfres RGS-IBG Blackwell, 2007) a Mobility, Space and Culture (Cyfres Llyfrgell Cymdeithaseg Ryngwladol Routledge, 2012). Mae’n awdur oddeutu 100 o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau mewn llyfrau, mae wedi golygu neu gyd-olygu pum rhifyn arbennig, ac wedi golygu neu gyd-olygu pum cyfrol arall, gan gynnwys Empire and Mobility in the Long Nineteenth Century (Cyfres Studies in Imperialism MUP, 2020), Mobility and the Humanities (Routledge, 2018), The Routledge Handbook of Mobilities (2014) a Geographies of Mobilities: Practices, Spaces, Subjects (Ashgate/Routledge, 2011). Cyfieithwyd Mobility and the Humanities i’r Korëeg yn 2019, ac roedd y llyfr yn ysbrydoliaeth uniongyrchol ar gyfer lansio dwy ganolfan ymchwil ryngwladol flaenllaw: y Ganolfan Astudiaethau Uwch mewn Symudedd a’r Dyniaethau (MoHu) ym Mhrifysgol Padua (Yr Eidal) ac Academi Dyniaethau Symudedd (AMH) ym Mhrifysgol Konkuk (De Korea). Mae’n aelod anrhydeddus o Ganolfan MoHu (Padua) ac yn Aelod Cyswllt o CMUS (Denmarc). Peter yw Golygydd Cyffredinol y gyfres chwe chyfrol arfaethedig yng nghyfres Bloomsbury Cultural Histories, A Cultural History of Transport and Mobility (2025) ac mae’n aelod o fyrddau golygyddol y cyfnodolion Mobilities, Applied Mobilities, Mobility Humanities aTransfers: Interdisciplinary Journal of Mobility Studies. Mae’n gyn-Olygydd Cyswllt Transfers ac yn Olygydd Adolygiadau Cultural Geographies.
Charles Musselwhite (Athro Seicoleg) Deiliad Cadair yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn cynnwys defnyddio seicoleg gymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd i ddeall a gwella’r berthynas rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd a lles. Yn benodol, mae ganddo arbenigedd ym maes gerontoleg amgylcheddol, gan archwilio’r berthynas rhwng yr amgylchedd ac iechyd yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hynny’n cynnwys diogelwch ffyrdd pobl hŷn sy’n defnyddio’r ffyrdd, rhoi’r gorau i yrru a chreu cymdogaethau a chymunedau sy’n ystyriol o oedran. Mae wedi gweithio ar 38 o brosiectau fel prif ymchwilydd neu gyd-ymchwilydd, gyda chyfanswm o dros £25.25m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd mae’n Brif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr prosiect £3m Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK). Mae’n awdur 46 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion, 21 o benodau mewn llyfrau a phum llyfr. Bu’n aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG) rhwng 2015 a 2020, ac yn sefydlydd a chyd-arweinydd grŵp diddordeb arbennig y BSG ar symudedd a thrafnidiaeth yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hefyd yn aelod o Gymdeithas Ryngwladol Seicoleg Gymhwysol, yn aelod o fwrdd y Grŵp Trafnidiaeth a Gwyddor Iechyd ac yn bartner i’r Bartneriaeth Arloesi Ewropeaidd ym maes Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach. Mae wedi cyflwyno ei waith mewn dros 100 o gynadleddau, gan gynnwys 50 o gyflwyniadau gwadd. Mae’n brif olygydd Journal of Transport & Health (Elsevier) ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolion EnvisAGE (Age Cymru) a Research in Transportation Business & Management (Elsevier).
Aelodau Craidd Ychwanegol:
Dr Lucy Baker Cydymaith ymchwil mewn Seicoleg sy’n gweithio ar Rwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd, THINK. Bydd Lucy yn cefnogi gwaith ymchwil, ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithgaredd ceisiadau am grant sy’n ystyried y rhyngweithio rhwng trafnidiaeth, iechyd a lles mewn cymunedau, a sut gallwn ni wella iechyd a lles y cyhoedd fel eu bod yn cael eu profi a’u cynnal yn fwy cyfartal mewn cymdeithas. Themâu allweddol gwaith Lucy yw tegwch cymdeithasol a datblygiad ôl-drefedigaethol, dylunio technolegol ar gyfer cynwysoldeb a lles, rhwydweithiau trefol cymdeithasol-dechnegol, anffurfioldeb, rhywedd, pŵer, symudedd beunyddiol, a gwleidyddiaeth dylunio technolegol a dulliau ymchwil. Mae ymchwil flaenorol Lucy wedi archwilio datblygiad llafur platfform digidol yn India a sut mae’n cyd-fynd â thechnolegau arian newydd ym maes trafnidiaeth, gyda’r nod o gynyddu tegwch cymdeithasol datblygiadau arloesol, gwaith yn y dyfodol a’r defnydd o ddata mawr. Roedd ei doethuriaeth ym maes Daearyddiaeth Ddynol yn archwiliad beirniadol o drosglwyddo ymyriadau symudedd beicio i wledydd sy’n datblygu, gyda gwaith maes yn Namibia.
Dr Samuel Mutteris Cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sydd ar hyn o bryd yn cael ei fentora gan Peter Merriman. Mae ei brosiect ymchwil ôl-ddoethurol, “Kin-aesthetic politics: logistical power and the governance of urban infrastructural mobilities”, yn rhychwantu meysydd daearyddiaeth ddynol, gwleidyddiaeth ac astudiaethau symudedd. Mae hefyd yn gyd-ymchwilydd ar grant cysylltiadau ESRC/AHRC “Connecting Mobilities Research between the UK and South Korea: narrating, mobilizing, experimenting and engaging mobilities for just futures”. Mae ganddo radd D.Phil. mewn Gwleidyddiaeth a gradd M.Sc. mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (Birkbeck, Prifysgol Llundain) a BA mewn Daearyddiaeth (Manceinion).
Amy Nicholass Swyddog Prosiect ar THINK. Yn y gorffennol, mae wedi rheoli prosiectau ymchwil sy’n ymwneud â heriau amgylcheddol ac iechyd o safbwynt academaidd tra’n gweithio yn Athrofa Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Caergrawnt, ac o safbwynt ymarferwr fel aelod o dîm polisi Eunomia Research and Consulting.
Dr Rita Singer Cydlynydd Prosiect a Chydymaith Ymchwil Ôl-Ddoethurol ar “Ports Past and Present” yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar hanes ysgrifennu teithio a thwristiaeth yng Nghymru, yn ogystal â hanes porthladdoedd yng Nghymru ac Iwerddon.