Croeso
Croeso i’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTrAM). Sail CeTrAM yw grŵp rhyngddisgyblaethol o academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n ymchwilio i drafnidiaeth a symudedd. Mae’r cyd-gyfarwyddwyr, yr Athro Peter Merriman a Charles Musselwhite, ac ymchwilwyr craidd wedi’u lleoli yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a’r Adran Seicoleg.
Amdanom ni
Grŵp rhyngddisgyblaethol o academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n ymchwilio i drafnidiaeth a symudedd yw’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTrAM). Mae’r cyd-gyfarwyddwyr ac ymchwilwyr craidd wedi’u lleoli yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a’r Adran Seicoleg, gydag aelodau ychwanegol o feysydd ar draws y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau.
Rydym yn creu canolfan drafnidiaeth a symudedd o fri rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau ar symudedd a thrafnidiaeth o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol a’r dyniaethau. Bydd y grŵp hefyd yn cydweithio ag ysgolheigion (ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn mannau eraill) mewn meysydd fel cyfrifiadureg, cynllunio a pheirianneg i fynd i’r afael â heriau penodol.
Byddwn yn cynnal ymchwil gydweithredol ar drafnidiaeth a symudedd gydag asiantaethau allanol y llywodraeth, sefydliadau yn y sector preifat a chyrff elusennol.
Mae trafnidiaeth a symudedd yn feysydd ymchwil pwysig sy’n rhychwantu’r gwyddorau cymdeithasol, peirianneg a’r dyniaethau. Bydd CeTrAM yn canolbwyntio ar chwe thema gydgysylltiedig:
- Profiadau, Arferion ac Ymddygiad Defnyddwyr Trafnidiaeth
- Trafnidiaeth, Symudedd ac Iechyd
- Cymunedau, cymdogaethau a chynhwysiant cymdeithasol
- Agweddau’r Celfyddydau a’r Dyniaethau at Symud a Symudedd
- Heriau Gwledig a Threfol
- Trafnidiaeth y Dyfodol mewn Cymdeithasau Cynaliadwy